Castell Carreg Cennen
Mae Castell Carreg Cennen yn dyddio ‘nol i o leiaf y drydedd ganrif ar ddeg. Mae tystiolaeth archeolegol yn dweud fod yr allgraig greigiog yma wedi ‘i feddiannu gan y Rhufeiniaid (datguddiwyd cuddstôr o arian Rhufeinig), hefyd mae olion cyn hanesyddol wedi eu darganfod (pedwar sgerbwd cyn hanesyddol).
Adeiladwyd y castell cyntaf gan Dywysogion y Deheubarth. Beth sydd i weld heddiw adeiladwyd yng nghyfnod Edward 1af.