Teithiau Cerdded Neuadd Bentref Trap Y FFYNNON SANCTAIDD
Taith gerdded fer i’r Ffynnon Sanctaidd ac Eglwys Llandyfan, gan ddychwelyd heibio i
Gapel Soar
Tua 2 1/2 - 3 milltir
Y Ffynnon Sanctaidd:
Tanc trochi sy’n gysylltiedig a’r Ffynnon Sanctaidd.
CYFARWYDDIADAU:
O’r neuadd bentref trowch i’r dde a dilynwch y ffordd tarmac. Parhewch yn syth ar draws y groesffordd i'r gyffordd—T ym Mlaengweche — tua 1 milltir. Trowch i’r chwith a dilynwch y ffordd am tua 1/3 milltir i Eglwys Llandyfan ar y chwith, gan
gymryd gofal lle mae’r ffordd yn culhau.
Adeiladwyd tua 2OO o gapeli neu eglwysi yng Nghymru ar safleoedd ffynhonnau sanctaidd cyn-Gristnogol, ac mae pedwar ar ddeg ohonynt yn Sir Gaerfyrddin. Mae’n bosibl y cyfeiriwyd at y ffynnon iachau yn Llandyfan yn Llyfr Teilo. Roedd y darddell hon yn enwog am wella parlys, a fe’i henwyd ar rai hen fapiau yn ‘the Welsh bath at Lluduvaen’. Mae straeon lleol yn nodi y byddai pwy bynnag a i’r ffynnon ac a ŷf ei ddŵr o benglog dynol yn cael iachâd o'i afiechydon.