Eglwys Llandyfan:
Wedi’i ddylunio gan R K Penson, pensaer Tŷ Newton yn Llandeilo. Adeiladwyd Eglwys Llandyfan yn 1864-5 0 dywodfaen lleol gyda tho teils cerrig. Mae ganddi dwr pyramid anarferol ac mae'n cynnwys ffenestri a gynhyrchwyd gan y cwmni a oedd yn gyfrifol am y gwydr lliw yn y Senedd. Yn syth gyferbyn mae’r tanc trochi sy’n gysylltiedig â'r Ffynnon Sanctaidd.
Capel Soar:
I ymweld a Chapel Soar, trowch yn ôl tuag at Trap ond ym Mlaengweche cadwch i’r
chwith yna i’r dde ger Ty Rock (h.y. aros ar y brif ffordd) a pharhau ar hyd y ffordd i’r gyffordd
nesaf ar y dde sydd chwarter milltir i lawr y ffordd. Trowch i’r dde; bydd hyn yn troelli i lawr
lôn ddeniadol, heibio i Gapel Soar ar y chwith ac ymlaen trwy gloddiau hynafol y sonnir amdanynt yn y llyfr ‘Hedgerow’ gan Anne Angus. (Gallwch weld copi yn y Gornel Treftadaeth yn Neuadd Bentref Trap).
CYFARWYDDIADAU TERFYNOL:
Parhau tuag at gyffordd fach lle byddwch yn troi i’r chwith yn ôl i Neuadd Bentref Trap.