Pentref Trap
Credir bod Trap wedi cael ei enw o drapiau eog oedd yn cael eu gosod yma ar yr Afon Cennen wrth iddi lifo trwy’r pentref. Fel arall gallai fod yn gyfyngiad o'r ymadrodd ‘Tir ap Rhys’ - sef tir mab Rhys. Mae’r tirlun cyfagos, gyda'i geudyllau a'i nentydd tanddaearol, yn cwrdd â hen dywodfaen coch y dyffryn. Mae’n gyfoethog ei dreftadaeth naturiol a diwylliannol, o'r oes haearn, trwy’r canol oesoedd i'r oes fodern. Ar un adeg adwaenwyd Dyffryn Cennen yn ‘Cwm Lladron’ - o bosib yn gysylltiedig â grwpiau o ladron a feddiannodd y castell.
Y Mynydd Du
Yr Oes Efydd (Z400-75OCC):
Gellir gweld dau grŵp o garneddau copa sy'n 3000 mlwydd oed, oleuaf, ar y Mynydd Du i’r de ddwyrain o’r pentref. Byddai’r tomenni claddu crwn hyn wedi cynnwys olion llosgedig teuluoedd pwysig o’r Oes Efydd. Nodweddion Archaeoleg arall o’r Oes Efydd, sy'n helaeth yn yr ardal hon, yw llwyfannau, cabanau, systemau caeau, tomenni llosg a chaeau carneddau.