Castell Carreg Cennen:
Olynodd yr adfeilion canoloesol trawiadol hyn gan gadarnle Cymreig cynharach. Mae canfyddiadau archeolegol, fodd bynnag, yn awgrymu efallai yr oedd pobl yn byw ar y safle yn ystod yr Oes Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid - lle i ymweld ag ef ar bob cyfrif! Daethpwyd o hyd i sawl sgerbwd, sydd o bosib yn dyddio yn ôl i’r cyfnod Mesolithig, yn yr ogof o dan y castell. Maent erbyn hyn yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd.
Canol Oesoedd:
Mae Penhill, sy’n agos i'r castell yn safle anheddiad canoloesol. Mae tarddleoedd Cristnogol Canoloesol hefyd yn bodoli yn ardal Trap, yn cynnwys adfeilion Capel Dewi, capel anwes. Mae gan sawl tŷ yn yr ardal gysylltiadau mynachaidd posib, yn cynnwys safle maenor oedd yn berchen i fynachod Abaty Talyllychau.
Diwydiannol:
Mae ardal Trap yn llawn mwynau ac mae’r rhain wedi cael eu cloddio ers cannoedd o flynyddoedd. Defnyddiwyd un o’r adnoddau mwynau a gloddiwyd ar y mynydd - sef calchfaen, yn y gweithfeydd haearn a’r ffwrneisi chwyth cynnar. Cafodd ei ddefnyddio hefyd, yn ôl yr hawl draddodiadol gan denantiaid a thrigolion bythynwyr ar ymylon y mynydd. Gwelir odynnau calch ar draws yr ardal - yn ardal Carreg Dwfn ac uwchben tarddiad y Llwchwr, er enghraifft. Lle bynnag y mae calchfaen yn cwrdd ag ardaloedd o rut melinfaen, mae dyddodion o dywod silica a phwdrfaen - carreg ysgafn o galchfaen hindreuliedig - i’w gweld. Defnyddiwyd y tywod silica, a falwyd mewn chwareli yn agos i Bal-y-Cwrt, i wneud briciau tân i ffwrneisi, a defnyddiwyd y pwdrfaen, ar ôl ei falu’n bast, i sgleinio metel. Cloddiwyd tywodfaen o ffurfiant Creigiau Llwydlo (Silwraidd) uwchben Cilmaenllwyd yn y deunawfed ganrif. Defnyddiwyd y cerrig hyn yn yr ardal fel teils to. Llandyfan oedd canolbwynt diwydiant haearn cynnar gan yr oedd yr holl elfennau crai angenrheidiol i’w cael yn helaeth yn Llandyfan neu gerllaw ar y Mynydd Du.
Yn ôl y chwedl, rhoddodd Syr Henry Vaughan o Dderwydd beli canon i Siarl I o Landyfan yn Rhyfel Cartref Lloegr, 0nd ni chafwyd tystiolaeth ddogfennol o efail yn Llandyfan ran 1669. Adeiladwyd ail efail ym 1780, o’r enw Efail Newydd. Parhaodd yr hen efail tan 1807.
Ym 1808, daeth yr Efail Newydd i feddiant teulu Du Buisson o Lynhir a ddefnyddiodd yr haearn ar gyfer ei gwaith cyllyll. Caeodd yr Efail Newydd yn y l83Oau a chafodd ei throi’n felin wlan yn y l84Oau.