Ynglŷn â’r Hen Ysgol
Yr Hen Ysgol
Neuadd y Pentref Trap
Mae'r Ysgol ym mhentref Trap ac fe’i adeiladwyd ym 1851. Cynlluniwyd gan Mr Rees Davies(1810-1898), pensaer a thirfesurydd lleol. Tanysgrifiad cyhoeddus talwyd am adeiladu’r adeilad a chafwyd y tir drwy haelioni’r Arglwydd Dinefwr. Codwyd tal yr ysgolfeistr (£40-£50 y flwyddyn) drwy gasgliadau lleol.
Daeth yn anodd codi’r arian a chymerodd yr Eglwys Anglicanaidd (hwyrach yr Eglwys yng Nghymru) drosodd ac fe arhosodd dan ofal yr Eglwys tan y trosglwyddwyd i’r Cyngor Sir yn 1946. Parhaodd I fod yn ysgol fywiog a gweithgar am yr hanner canrif nesaf. Gyda gostyngiad yn y gyfradd geni a diffyg gwerthiant o dai fforddiadwy penderfynwyd cai'r ysgol yn y flwyddyn ysgol 2005-2006.
Yn 2011 prynodd Cymdeithas Gymunedol Trap (gyda help grant o’r Lotri Fawr a chefnogaeth haelionus yr Arglwydd Dinefwr) yr adeilad.